Hyfforddiant gwrth-fwlio ar gyfer llywodraethwyr yng Nghymru
Description
Bydd y cwrs hwn yn sicrhau y bydd gennych chi ddealltwriaeth dda o beth yw bwlio; cynllun gweithredu 10 pwynt ar gyfer atal ac ymateb i fwlio; a gwybodaeth ynghylch rolau a chyfrifoldebau sydd gan lywodraethwyr mewn perthynas â gwaith gwrth-fwlio mewn ysgolion. Bydd angen oddeutu 45-60 munud i’w gwblhau.
Gofynnir i chi ateb arolwg cyn ac wedi’r cwrs a byddwch yn cael tystysgrif ar ôl ei gwblhau. Bydd eich tystysgrif yn adran ‘My trainings’ y platfform e-ddysgu a gallwch chi glicio ar y tic pinc i’w lawrlwytho unrhyw bryd.
*Daliwch sylw: rhaid cwblhau’r holl wersi er mwyn gallu lawrlwytho eich tystysgrif. Bydd y ddewislen ar y chwith yn olrhain eich cynnydd trwy’r cwrs.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, bydd gan gyfranogwyr ddealltwriaeth well o’r canlynol:
Diffiniad y Gynghrair Gwrth-fwlio o fwlio
Y rolau sy’n rhan o fwlio
Y grwpiau o blant sy’n fwy agored i fwlio
Cynllun gweithredu 10 pwynt sy’n seiliedig ar argymhellion allweddol yn Hawliau, Parch, Cydraddoldeb: Canllawiau statudol ar gyfer cyrff llywodraethu
Atebolrwydd llywodraethwyr mewn perthynas â gwaith gwrth-fwlio
Bwlio a’r gyfraith, yn ogystal â’r cysylltiad â diogelu
Bwlio sy’n gysylltiedig â rhagfarn
Bwlio oddi allan i dir yr ysgol
Polisïau gwrth-fwlio
Strategaethau i atal bwlio
Adrodd am ddigwyddiadau bwlio a’u cofnodi
Os ydych chi’n dymuno dysgu rhagor am ddulliau o atal ac ymateb i fwlio, mae llawer o adnoddau a chyfleoedd hyfforddiant ar gael ar wefannau’r Gynghrair Gwrth-fwlio a Kidscape: