Hyfforddiant gwrth-fwlio ar gyfer llywodraethwyr yng Nghymru

Description

Bydd y cwrs hwn yn sicrhau y bydd gennych chi ddealltwriaeth dda o beth yw bwlio; cynllun gweithredu 10 pwynt ar gyfer atal ac ymateb i fwlio; a gwybodaeth ynghylch rolau a chyfrifoldebau sydd gan lywodraethwyr mewn perthynas â gwaith gwrth-fwlio mewn ysgolion. Bydd angen oddeutu 45-60 munud i’w gwblhau.

Gofynnir i chi ateb arolwg cyn ac wedi’r cwrs a byddwch yn cael tystysgrif ar ôl ei gwblhau. Bydd eich tystysgrif yn adran ‘My trainings’ y platfform e-ddysgu a gallwch chi glicio ar y tic pinc i’w lawrlwytho unrhyw bryd.

*Daliwch sylw: rhaid cwblhau’r holl wersi er mwyn gallu lawrlwytho eich tystysgrif. Bydd y ddewislen ar y chwith yn olrhain eich cynnydd trwy’r cwrs.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, bydd gan gyfranogwyr ddealltwriaeth well o’r canlynol:

  • Diffiniad y Gynghrair Gwrth-fwlio o fwlio
  • Y rolau sy’n rhan o fwlio
  • Y grwpiau o blant sy’n fwy agored i fwlio
  • Cynllun gweithredu 10 pwynt sy’n seiliedig ar argymhellion allweddol yn Hawliau, Parch, Cydraddoldeb:  Canllawiau statudol ar gyfer cyrff llywodraethu
  • Atebolrwydd llywodraethwyr mewn perthynas â gwaith gwrth-fwlio
  • Bwlio a’r gyfraith, yn ogystal â’r cysylltiad â diogelu
  • Bwlio sy’n gysylltiedig â rhagfarn
  • Bwlio oddi allan i dir yr ysgol
  • Polisïau gwrth-fwlio
  • Strategaethau i atal bwlio
  • Adrodd am ddigwyddiadau bwlio a’u cofnodi

Os ydych chi’n dymuno dysgu rhagor am ddulliau o atal ac ymateb i fwlio, mae llawer o adnoddau a chyfleoedd hyfforddiant ar gael ar wefannau’r Gynghrair Gwrth-fwlio a Kidscape:

https://www.anti-bullyingalliance.org.uk

https://www.kidscape.org.uk/

If you would like to access this course in English, please click here